The Project Gutenberg EBook of Yr Hwiangerddi, by Owen M. Edwards Copyright laws are changing all over the world. Be sure to check the copyright laws for your country before downloading or redistributing this or any other Project Gutenberg eBook. This header should be the first thing seen when viewing this Project Gutenberg file. Please do not remove it. Do not change or edit the header without written permission. Please read the "legal small print," and other information about the eBook and Project Gutenberg at the bottom of this file. Included is important information about your specific rights and restrictions in how the file may be used. You can also find out about how to make a donation to Project Gutenberg, and how to get involved. **Welcome To The World of Free Plain Vanilla Electronic Texts** **eBooks Readable By Both Humans and By Computers, Since 1971** *****These eBooks Were Prepared By Thousands of Volunteers!***** Title: Yr Hwiangerddi Author: Owen M. Edwards Release Date: May, 2005 [EBook #8194] [This file was first posted on June 30, 2003] [Most recently updated: June 30, 2003] Edition: 10 Language: Welsh Character set encoding: US-ASCII
Ambell orig daw hen hwiangerdd, fel su melodaidd o gartref pell a hoff, i’r meddwl. Daw un arall ar ei hol, ac un arall,—a chyda hwy daw adgofion cyntaf bore oes. Daw’r llais mwynaf a glywsom erioed i’n clust yn ol, drwy stormydd blynyddoedd maith; daw cof am ddeffro a sylwi pan oedd popeth yn newydd a rhyfedd. A daw ymholi ond odid. Beth yw tarddle swyn yr hen gerddi hwian syml hyn? Pa nifer ohonynt fedraf? Pa nifer sydd ohonynt yn llenyddiaeth Cymru? A ydynt yn llenyddiaeth? Beth fu eu dylanwad ar fy mywyd? A adawsant ryw nod ar lenyddiaeth Cymru?
O ble y daethant? Y mae iddynt ddau darddiad. Yn un peth,—y maent yn adlais o ryw hen bennill genid gyda’r delyn. Cofid y rhannau mwyaf melodaidd, rhyw seiniau fynnai aros yn y glust, gan fam neu forwyn, a byddent yn llais i lawenydd y galon wrth suo’r plentyn i gwsg. A ffynhonnell arall,—yr oedd y fam yn creu cerddi hwian, nid i wneyd i’r plentyn gysgu, ond i’w gadw’n ddiddig pan ar ddihun. Ac y mae cof gwlad wedi trysori ymgais y mamau mwyaf athrylithgar.
Ar ei fysedd y sylwa plentyn i ddechreu. Hwy ddefnyddia’r fam yn deganau cyntaf. Rhoddir enwau arnynt,—Modryb ’y Mawd, Bys yr uwd, Hirfys, Cwtfys, Bys bach, neu ryw enwau ereill. Gwneir iddynt chware â’u gilydd; llechant yng nghysgod eu gilydd, siaradant â’u gilydd; ant gyda’u gilydd i chware, neu i hel gwlan, neu i ladd defaid i’r mynydd. Yr oedd yr olaf yn fater crogi yr adeg honno, ac felly yr oedd y chware yn un pur gyffrous. Yr oedd i bob bys gymeriad hefyd; bys yr uwd oedd y cynlluniwr, yr hirfys oedd y gweithiwr cryf eofn, y cwtfys oedd y beirniad ofnus, a’r bys bach, druan, oedd yn gorfod dilyn y lleill neu gario dŵr. Yn llenyddiaeth gyntaf plentyn, y bysedd yw’r actors yn y ddrama.
Wedi’r bysedd, y traed oedd bwysicaf. Eid trwy yr un chware gyda bysedd y traed drachefn. A difyr iawn oedd pedoli, curo gwadnau’r traed bob yn ail, a phedoli dan ganu.
Nodwedd bennaf plentyn iach, effro yw, nas gall fod eiliad yn llonydd. Mae pob gewyn ynddo ar fynd o hyd. Ac y mae mynd yn yr hen hwiangerddi. Gorchest arwrol gyntaf plentyn yw cael ei ddawnsio’n wyllt ar y lin. “Gyrru i Gaer” yw anturiaeth fawr gyntaf dychymyg y rhan fwyaf o blant Cymru. Ac y mae afiaeth mawr i fod ar y diwedd, i ddynodi rhyw drychineb ysmala,—dod adre wedi priodi, boddi yn y potes, neu dorri’r pynnaid llestri’n deilchion. Mae’r coesau a’r breichiau bychain i fynd ar eu gwylltaf, ac y mae edyn mân dychymyg y plentyn yn chware’n wyllt hefyd.
Yr un cerddi hwian, mewn llais distawach, dwysach, a suai y plentyn i gwsg. Ai’r llong i ffwrdd yn ddistaw, carlamai’r cel bach yn esmwyth, doi’r nos dros furiau Caer.
A yw’r hwiangerddi’n foddion addysg? Hwy rydd addysg oreu plentyndod. Am genedlaethau’n ol, ceisid dysgu plant yn yr ysgol o chwith. Ceisid eu cadw’n llonydd, a hwythau’n llawn awydd symud. Ceisid eu cadw’n ddistaw, a hwythau’n llawn awydd parablu. Dofi, distewi, disgyblu oedd o hyd. Erbyn hyn deallir egwyddorion dysgu plentyn yn well. Gellid rhoddi rhestr hir o athronyddion dysg plant, a dangos fel y gwelsant, o un i un yn raddol, wir ddull dysgu plant. A’r dull hwnnw yw,— dull yr hwiangerddi. Dysgir y plentyn i astudio’i fysedd. Ca fynd ar drot ac ar garlam yr adeg y mynno. Ac ymhob cerdd, daw rhyw agwedd darawiadol ar y natur ddynol i’r golwg. Ei siglo’n brysur ar y glin i swn rhyw hen gerdd hwian,—dyna faban ar ben gwir Iwybr ei addysg. Ni fyddaf yn credu dim ddwed yr athronwyr am addysg babanod os na fedrir ei brofi o’r hwiangerddi. Ynddynt hwy ceir llais greddf mamau’r oesoedd; o welediad clir cariad y daethant, ac o afiaeth llawenydd iach.
A yw’r cerddi hwian yn llenyddiaeth? Ydynt, yn ddiameu. Y mae iddynt le mor bwysig mewn llenyddiaeth ag sydd i’r plentyn yn hanes dyn. Y mae llenyddiaeth cenedl yn dibynnu, i raddau mawr, ar ei hwiangerddi. Os mynnech ddeall nodweddion cenedl, y dull chwilio hawddaf a chyrfymaf a sicraf yw hwn,—darllennwch ei cherddi hwian. Os ydynt yn greulon ac anonest eu hysbryd, yn arw a chras, yn fawlyd a dichwaeth, rhaid i chwi ddarllen hanes cenedl yn meddu yr un nodweddion. Os ydynt yn felodaidd a thyner, a’r llawenydd afteithus yn ddiniwed, cewch genedl a’i llenyddiaeth yn ddiwylledig a’i hanes yn glir oddiwrth waed gwirion. Nis gall y Cymro beidio bod a chlust at felodi, wedi clywed y gair “pedoli” bron yn gyntaf un, a hwn yn gyntaf pennill,—
“Mae gen i ebol melyn,
Yn codi’n
bedair oed;
A phedair pedol arian,
O dan
ei bedwar troed.”
Disgwylir i mi ddweyd, mae’n ddiau gennyf, ymhle y cefais yr holl gerddi hwian hyn. Gwaith araf oedd eu cael, bum yn eu casglu am dros ugain mlynedd. Ychydig genir yn yr un ardal, daw y rhai hyn bron o bob ardal yng Nghymru. Cefais hwy oddiwrth rai ugeiniau o gyfeillion caredig, yn enwedig pan oeddwn yn olygydd Cymru’r Plant. A chefais un fantais fawr yng nghwrs fy addysg,—nid oes odid blentyn yng Nghymru y canwyd mwy o hwiangerddi iddo.
Hyd y gwn i; Ceiriog ddechreuodd gasglu hwiangerddi Cymru, yn yr Arweinydd, yn 1856 ac 1857. Condemnid y golygydd, Tegai, am gyhoeddi pethau mor blentynaidd. Ond daeth yr hanesydd dysgedig Ab Ithel, oedd wedi cyhoeddi’r Gododin ac yn paratoi’r Annales Cambriae y Brut y Tywysogion i’r wasg, i’w amddiffyn yn bybyr. Cawr o ddyn oedd Ab Ithel; y mae rhai o wyr galluocaf a mwyaf dysgedig Cymru, yn ogystal a phlant ysgol, wedi’m helpu innau i wneyd y casgliad hwn. Cyhoeddwyd casgliad Ceiriog wedi hyn yn “Oriau’r Haf.” Nid oes ynddo ddim o gerddi hwian y De. Cyhoeddodd Cadrawd rai o gerddi hwian Morgannwg yn ei “History of Llangynwyd Parish” yn 1887. “Yn ddiweddarach cyhoeddwyd casgliad gyda darluniau prydferth yng Nghonwy, {0a} a chasgliad gan Cadrawd gyda cherddoriaeth o drefniad Mr. Harry Evans ym Merthyr Tydfil. {0b}
Nid y lleiaf o arwyddion da am ddyfodol Cymru yw fod yr hen hwiangerddi swynol hyn i’w clywed eto yn ei chartrefi ac yn ei hysgolion.
OWEN M. EDWARDS.
Y Bachgen boch-goch,
A’r bochau brechdan,
A’r
bais dew,—
O ble doist ti?
Mae gen i ebol melyn,
Yn codi’n bedair
ced,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar
troed;
Mi neidia ac mi brancia
O dan y feinir
wen,
Fe reda ugain milldir
Heb dynnu’r
ffrwyn o’i ben.
Gyrru, gyrru, gyrru i Gaer;
I briodi merch y maer;
Gyrru,
gyrru, gyrru adre,
Wedi priodi ers diwrnodie.
Ar garlam, ar garlam,
I ffair Abergele;
Ar ffrwst, ar ffrwst,
I
ffair Lanrwst.
Dau gi bach yn mynd i’r coed,
Dan droi’u fferrau,
dan droi’u troed;
Dau gi bach yn dyfod adre,
Blawd ac
eisin hyd eu coese.
Dandi di, dandi do,
Welwch chwi ’i sgidie newydd o?
Ar
i fyny, ar i wared,
Bydd y bachgen bach yn cerdded.
Ymlaen, geffyl bach,
I’n cario ni’n
dau
Dros y mynydd
I hela cnau.
Ymlaen, geffyl bach,
I’n cario ni’n
tri
Dros y mynydd
I hela cnu.
Sion a Sian, oddeutu’r tân,
Yn bwyta blawd ac eisin
mân.
Beti bach a finnau
Yn mynd i Lundain G’lanmai;
Os
na chawn ni’r ffordd yn rhydd,
Mi neidiwn dros y cloddiau.
Beti bach a finne,
Yn mynd i Lundain Glame;
Mae dŵr
y môr yn oer y nos,
Gwell inni aros gartre.
Lodes ei mam, a lodes ei thad,
A fentri di gyda fi allan o’r
wlad,
Lle mae gwin yn troi melinau,
A chan punt am gysgu’r
borau?
Mi af i Lundain Glamai
Os byddai byw ac iach,
Ni
’rosa i ddim yng Nghymru
I dorri ’nghalon
bach;
Mae digon o arian yn Llundain,
A swper
gyda’r nos,
A mynd i ’ngwely’n gynnar,
A
chodi wyth o’r gloch.
Si hei-li-lwli, ’r babi,
Mae’r
llong yn mynd i ffwrdd;
Si hei-li-lwli, ’r babi,
Mae’r
capten ar y bwrdd.
Chwe dafad gorniog,
A chwe nod arni, {14b}
Ac
ar y bryniau garw,
’Roedd rheiny i gyd
yn pori;
Dafad wen, wen, wen,
Ie benwen,
benwen, benwen;
Ystlys hir a chynffon wen,
Wen,
wen.
Iar fach dlos
Yw fy iar fach i;
Pinc
a melyn,
A choch a du.
Gwcw fach, ond ’twyt ti’n ffolog,
Ffal
di ral di rw dw ti rei tei O,
Yn canu ’mhlith yr eithin pigog,
Ffal
di ral di rw dw ti rei tei O;
Dos i blwy Dolgellau dirion,
Ffal
di ral di rw dw ti rei tei O;
Ti gei lwyn o fedw gwyrddion,
Ffal
di ral di rw dw ti rei tei O.
Llygod mân yn chwythu’r tân,
A’r
malfod yn gweu melfed.
Gyrru, gyrru, drot i’r dre,
Dwad adre erbyn te.
Gyrru, gyrru, i Gaerdydd,
Mofyn pwn o lestri pridd;
Gyrru,
gyrru’n ol yn glau,
Llestri wedi torri’n ddau.
Pandy, pandy, melin yn malu,
Gweydd yn gweu a’r ffidil
yn canu;
Ceffyl bach du a’r gynffon wen
Yn cario Gwen
a Mari.
Tomos Jones yn mynd i’r ffair,
Ar gefn ei farch a’i
gyfrwy aur;
Ac wrth ddod adre cwyd ei gloch,
Ac yn ei boced
afal coch.
’Ar drot, ar drot, i dŷ Shon Pot,
Ar whîl,
ar whîl, i dŷ Shon Pîl;
Ar garlam, ar garlam,
i dŷ Shon Rolant,
Bob yn gam, bob yn gam, i dŷ f’ewythr
Sam.
Iohn bach a finne,
Yn mynd i Lunden Glame;
Ac os na chawn
ni’r ffordd yn glir,
Ni neidiwn dros y cloddie.
Croen y ddafad felen,
Yn towlu’i throed
allan;
Troed yn ol, a throed ymlaen,
A throed
yn towlu allan.
“Ding dong,” medd y gloch,
Canu cnul y bachgen coch;
Os
y bachgen coch fu farw,
Ffarwel fydd i’r gwin a’r cwrw.
Dacw tada’n gyrru’r moch,
Mochyn gwyn, a mochyn
coch;
Un yn wyn yn mynd i’r cwt,
A’r llall yn
goch a chynffon bwt.
Dau droed bach yn mynd i’r coed,
Esgid newydd am bob troed;
Dau
droed bach yn dwad adre
Wedi colli un o’r ’sgidie.
Dau droed bach yn mynd i’r felin,
I gardota blawd ac eithin;
Dau
droed bach yn dyfod adra,
Dan drofera, dan drofera.
Carreg o’r Nant,
Wnaiff Iant;
Carreg
o’r to,
Wnaiff o,—
Ianto.
Deio bach a minne
Yn mynd
i werthu pinne;
Un res, dwy res,
Tair rhes
am ddime.
Modryb y fawd,
Bys yr uwd,
Pen y cogwr,
Dic y peipar,
Joli
cwt bach.
“Ddoi di i’r mynydd?” meddai’r fawd,
“I
beth?” meddai bys yr uwd;
“I hela llwynog” meddai’r
hir-fys; {19b}
“Beth
os gwel ni?” meddai’r canol-fys;
“Llechu dan
lechen” meddai bys bychan.
Buarth, baban, cryman, croes;
Modrwy aur i’r oreu ’i
moes.
Mi af i’r ysgol fory,
A’m llyfyr
yn fy llaw;
Heibio’r Castell Newydd,
A’r
cloc yn taro naw;
Dacw mam yn dyfod,
Ar
ben y gamfa wen,
“A rhywbeth yn ei barclod,
A
phiser ar ei phen.
Mi af i’r ysgol fory,
A’m llyfyr
yn fy llaw,
Heibio’r Sgubor Newydd,
A’r
cloc yn taro naw;
O, Mari, Mari, codwch,
Mae
heddyw’n fore mwyn,
Mae’r adar bach yn canu,
A’r
gôg ar frig y llwyn.
Mi fum yn gweini tymor
Yn ymyl Ty’n
y Coed,
A’dyna’r lle difyrraf
Y
bum i ynddo ’rioed;
Yr adar bach yn canu,
A’r
coed yn suo ynghyd,—
Fy nghalon fach a dorrodd,
Er
gwaetha rhain i gyd.
Pwsi mew, pwsi mew,
Lle collaist ti dy flew?
“Wrth
gario tân
I dŷ modryb Sian,
Yng
nghanol eira a rhew.”
Shincin Sion o’r Hengoed
Aeth i foddi
cath,
Mewn cwd o lian newydd,
Nad oedd e
damed gwaeth;
Y cwd a aeth ’da’r afon,
A’r
gath a ddaeth i’r lan,
A Shincin Sion o’r Hengoed
Gas
golled yn y fan.
“Wel, wel,”
Ebe ci Jac Snel,
“Rhaid i
mi fynd i hel,
Ne glemio.”
Pwsi meri mew,
Ble collaist ti dy flew?
“Wrth fynd
i Lwyn Tew
Ar eira mawr a rhew.”
“Pa groeso gest ti yno.
Beth gefaist yn dy ben?”
Ces
fara haidd coliog,
A llaeth yr hen gaseg wen.”
Llidiart newydd ar gae ceirch,
A gollwng meirch
o’r stablau;
Cywion gwyddau, ac ebol bach,
Bellach
ddaw Calanmai.
Mae gen i darw penwyn,
A gwartheg lawer iawn;
A
defaid ar y mynydd,
A phedair dâs o fawn.
Mae gen i gwpwrdd cornel,
A set o lestri te;
A
dresser yn y gegin,
A phopeth yn ei le.
Mae gen i drol a cheffyl,
A merlyn bychan
twt,
A phump o wartheg tewion,
Yn pori yn
y clwt.
Dacw dŷ, a dacw do,
Dacw efail Sion y go;
Dacw Mali
wedi codi,
Dacw Sion a’i freichiau i fyny.
Ar y ffordd wrth fynd i Ruthyn,
Gwelais ddyn yn gwerthu brethyn;
Gofynnais
iddo faint y llath,
Fod arnaf eisio siwt i’r gath.
(I ddynwared swn ysturmant.)
DWR glân
gloew,
Bara chaws a chwrw.
(I ddynnwared Cân Ysguthan.)
Cyrch du,
du,
Yn ’y nghwd i.
Sian bach anwyl,
Sian bach i;
Fi pia
Sian,
A Sian pia fi.
Pan brioda Sion a minnau,
Fe fydd cyrn ar bennau’r gwyddau;
Ieir
y mynydd yn bluf gwynion;
Ceiliog twrci fydd y person.
Sion a Sian yn mynd i’r farchnad,
Sian yn mynd i brynnu
iar,
A Sion i werthu dafad.
Rhowch y crochan ar y tân,
A phen y
frân i ferwi;
A dau lygad y gath goed,
A
phedwar troed y wenci.
Ust, O taw! Ust, O taw,
Aeth dy fam i Loeger draw;
Hi
ddaw adre yn y man,
A llond y cwd o fara cann.
Bachgen bach ydi’r bachgen gore,
Gore,
gore;
Cysgu’r nos, a chodi’n fore,
Fore,
fore.
Hen fenyw fach Cydweli
Yn gwerthu losin du;
Yn
rhifo deg am geiniog,
Ond un ar ddeg i fi.
Morfudd fach, ferch ei mham,
Gaiff y gwin a’r bara cann;
Hi
gaiff ’falau per o’r berllan,
Ac yfed gwin o’r
llester arian.
Morfudd fach, merch ei thad,
Gaiff y wialen fedw’u rhad;
Caiff
ei rhwymo wrth bost y gwely
Caiff ei chwipio bore yfory.
Whic a whiw!
Aeth y barcud a’r ciw;
Os na feindwch
chwi ato,
Fe aiff ag un eto.
Mae gen i hen iar dwrci,
A
mil o gywion dani;
Pob un o rheiny yn gymaint ag ych,—
Ond
celwydd gwych yw hynny?
Mae gen i iar a cheiliog
A
brynnais i ar ddydd Iau;
Mae’r iar yn dodwy wy bob dydd,
A’r
ceiliog yn dodwy dau.
Mae gen i iar a cheiliog,
A hwch a mochyn
tew;
Rhwng y wraig a finne,
’R ym
ni’n eig wneyd hi’n lew.
Mae gen i ebol melyn
A merlen newydd spon,
A
thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron;
Mae
gen i iar a cheiliog,
Mi cefais er dydd Iau,
Mae’r
iar yn dodwy wy bob dydd
A’r ceiliog yn
dodwy dau.
Shoni Brica Moni
Yn berchen buwch a llo;
A
gafar fach, a mochyn,
A cheiliog, go-go-go!
Mi welais nyth pioden,
Fry, fry, ar ben y goeden,—
A’i
chynffon hi mas.
Dafi bach a minne,
Yn mynd i Aberdâr,
Dafi’n
mofyn ceiliog,
A minne’n ’mofyn giar.
“Wel,” meddai Wil wrth y wal,
Wedodd y wal ddim
wrth Wil.
Mae’n dda gan hen wr uwd a lla’th
Mae’n
dda gan gath lygoden;
Mae’n dda gan ’radwr flaen ar
swch,
Mae’n dda gan hwch y fesen.
Mae gen i, ac mae gen lawer,
Gloc ar y mur i gadw amser;
Mae
gan Moses, Pant y Meusydd,
Gloc ar y mur i gadw’r tywydd.
Mi welais ddwy gabetsen,
Yn uwch na chlochdy Llunden;
A
deunaw gŵr yn hollti ’rhain,
A phedair cainc ar hugain.
Mi welais i beth na welodd pawb,—
Y
cwd a’r blawd yn cerdded;
Y frân yn toi ar ben y ty,
A’r
malwod yn gwau melfed.
Mi welais innau falwen goch,
A dwy gloch wrth
ei chlustiau;
A dau faen melin ar ei chefn,
Yn
curo’r milgwn gorau.
Do, mi welais innau wennol,
Ar y traeth yn gosod pedol;
Ac
yn curo hoel mewn diwrnod,—
Dyna un o’r saith rhyfeddod.
Mi weles beth na welodd pawb,—
Y cwd
a’r blawd yn cerdded,
Y frân yn toi ar ben y ty,
A’r
gŵr mor hy a hedeg;
A hogyn bach, dim mwy na mi,
Yn
Ilyncu tri dyniawed.
’Roedd gen i ddafad gorniog,
Ac arni
bwys o wlan,
Yn pori ar lan yr afon
Ymysg
y cerrig mân;
Fe aeth yr hwsmon heibio,
Hanosodd
arni gi;
Ni welais i byth mo’m dafad,
Ys
gwn i a welsoch chwi?
Mi gwelais hi yn y Bala,
Newydd werthu ei
gwlan,
Yn eistedd yn ei chadair,
O flaen
tanllwyth mawr o dân;
A’i phibell a’i thybaco,
Yn
smocio’n abal ffri,
A dyna lle mae y ddafad,—
Gwd
morning, Jon, how di!
’Roedd gen i iar yn gorri,
Ar ben y
Penmaen Mawr,
Mi eis i droed y Wyddfa
I
alw arni i lawr;
Mi hedodd ac mi hedodd,
A’i
chywion gyda hi,
I ganol tir y Werddon,—
Good
morning, John! How di?
Troi a throsi, troi i ble?
I Abergele i yfed te.
Fuost ti erioed yn morio?
“Do, mewn padell ffrio;
Chwythodd
y gwynt fi i Eil o Man,
A dyna lle bum i’n crio.”
Dacw long yn hwylio’n hwylus,
Heibio’r trwyn, ac
at yr ynys;
Os fy nghariad i sydd ynddi,
Hwyliau sidan glas
sydd arni.
Cwch bach ar y môr,
A phedwar dyn yn
rhwyfo;
A Shami pwdwr wrth y llyw
Yn gwaeddi,—“Dyn
a’n helpo.”
Mae gen i dŷ bach del,
O dŷ bach del, O dŷ bach
del,
A’r gwynt i’r drws bob amser;
Agorwch
dipyn o gil y ddôr,
O gil y ddôr, o gil y ddôr,
Cewch
weld y môr a’r llongau.
Ioan bach a finnau
Yn mynd i ddwr y môr;
Ioan
yn codi ’i goesau,
A dweyd fod dŵr
yn oer.
Tri graienyn, tri maen melin,
Tair llong ar fôr, tri môr,
tri mynydd;
A’r tri aderyn a’r traed arian,
Yn
tiwnio ymysg y twyni mân.
Mae fy nghariad wedi digio,
Nis gwn yn wir pa beth ddaeth iddo;
Pan
ddaw’r gwibed bach a chywion,
Gyrraf gyw i godi ei galon.
Mi af oddiyma i ben Carn Fadryn,
Er mwyn cael gweled eglwys
Nefyn;
O ddeutu hon mae’r plant yn chware,
Lle dymunwn
fy mod inne.
Siglo’r cryd â’m troed wrth bobi,
Siglo’r
cryd â’m troed wrth olchi;
Siglo’r cryd ymhob
hysywaeth,
Siglo’r cryd sy raid i famaeth.
Mae nhw’n dwedyd yn Llanrhaiad,
Mai rhyw deiliwr wnaeth
y lleuad;
A’r rheswm am fod goleu drwyddo,
Ei fod heb
orffen cael ei bwytho.
Coes un ddel, ac hosan ddu,
Fel a’r fel, fel a’r
fu;
Fel a’r fu, fel a’r fel,
Ac hosan ddu coes
un ddel.
Y Bryn,—“Igam Ogam, ble’r ei di?”
Yr
Afon,—“Moel dy ben, nis gwaeth i ti.”
Y Bryn,—“Mi
dyf gwallt ar fy mhen i
Cyn unioni’th arrau
ceimion di.”
Pan es i gynta i garu,
O gwmpas tri o’r
gloch,
Mi gurais wrth y ffenestr,
Lle’r
oedd yr hogen goch.
Tri pheth sy’n hawdd eu siglo,—
Llong ar fôr
pan fydd hi’n nofio,
Llidiart newydd ar glawdd helyg,
A
march dan gyfrwy merch fonheddig.
Dyma arfer pobl Penllyn,—
Canu a dawnsic hefo’r
delyn,
Dod yn ol wrth oleu’r lleuad,
Dwyn y llwdn llwyd
yn lladrad.
Caf finnau ddillad newydd
O hyn i tua’r
Pasg,
Mi daflaf rhain i’r potiwr,
Fydd
hynny fawr o dasg;
Caf wedyn fynd i’r pentre,
Fel
sowldiwr bach yn smart,
A phrynnaf wn a chledde,
I
ladd ’rhen Fonipart.
Eglwys fach Pencarreg,
Ar ben y ddraenen wen;
A
chlochdy mawr Llanbydder
Yn Nheifi dros ei ben.
Pan oedd y ci ryw noson,
Yn ceisio crafu’r crochon,
’Roedd
Wil o’r Pant, nai Beti Sian,
Yn cynnal bla’n ’i
gynffon.
Twm yr ieir aeth lawr i’r dre,
A giar a cheiliog gydag
e;
Canodd y ceiliog,—“Go-go-go”;
Gwaeddodd
Twm,—“Halo! Halo!”
Fe ddaw Gwyl Fair, fe ddaw Gwyl Ddewi,
Fe ddaw’r hwyaden
fach i ddodwy.
Hei, gel bach, tua Chaerdydd,
’Mofyn pwn o lestri pridd;
Hei,
gel mawr, i Aberhonddu,
Dwmbwr dambar, llestri’n torri.
Gyrru, gyrru, drot i’r dre,
’Mofyn bara cann a the.
Gyrru, gyrru, i ffair Henfeddau,
’Mofyn pinnau, ’mofyn
’falau.
Gyrru, gyrru, i ffair y Rhos;
Mynd cyn dydd a dod cyn nos.
Gyrru, gyrru, i ffair y Fenni;
’Mofyn cledd i ladd y bwci.
Welwch chwi cel bach
Yn ein cario ni’n
dau?
Mynd i ochor draw’r afon
Gael
eirin a chnau.
Mam gu, mam gu, dewch maes o’r ty,
Gael gweld John Jones
ar gefn y ci.
Mari lân, a Mari lon,
A Mari dirion
doriad,
Mari ydyw’r fwyna’n fyw,
A
Mari yw fy nghariad;
Ac onid ydyw Mari’n lân,
Ni
wiw i Sian mo’r siarad.
Trot, trot, tua’r dre,
‘Mofyn pwn o lestri te;
Trot,
trot, tua’r dre,
I mofyn set o lestri te;
Galop, galop,
tua chartre,
Torri’r pwn a’r llestri’n gate.
Mari John, ffidil a ffon,
Cyllell a bilwg i chware ding dong.
Sion a Siani Siencyn,
Sy’n byw yn sir
y Fflint;
Sian yn ennill chweugain,
A Sion
yn ennill punt.
Dafi Siencyn Morgan,
Yn codi’r dôn ei hunan;
A’i
isaf en e nesa i fiwn,
A dyna’r ffordd i ddechre tiwn.
Robin goch a’r Dryw bach
Yn fy nghuro i fel curo sach;
Mi
godais innau i fyny’n gawr,
Mi drewais Robin goch i lawr.
Ji binc, ji binc, ar ben y banc,
Yn pwyso hanner cant o blant.
Shinc a Ponc a finne
Yn mynd i ffair y pinne;
Dod yn ol
ar gefn y frân,
A phwys o wlan am ddime.
Robin goch ar ben y rhiniog,
Yn gofyn tamaid heb un geiniog;
Ac
yn dwedyd yn ysmala,—
“Mae hi’n oer, mi ddaw
yn eira.”
Si so, Jac y Do,
Dal y deryn dan y to,
Gwerthu’r
fuwch a lladd y llo,
A mynd i Lunden i roi fro;
Dene diwedd
Jac y Do.
Y dyrnwr yn dyrnu,
Y ffidil yn canu;
A Robin goch bach
Yn
dawnsio’n y beudy.
Rhowch imi fenthyg ceffyl,
I fyned dros y
lan,
I garu’r ferch fach ifanc
Sy’n
byw ’da ’i thad a’i mham;
Ac oni ddaw yn foddus,
A’i
gwaddol gyda hi,
Gadawaf hi yn llonydd,
Waith
bachgen pert wyf fi.
Mae gennyf dŷ cysurus,
A melin newydd
dwt,
A chwpwrdd yn y gornel,
A mochyn yn
y cwt.
Y llepyn llo a’r gwyneb llwyd,
Ti fyti
fwyd o’r goer;
Pe torrit gwys fel torri gaws,
Fe
fyddai’n haws dy ddiodde.
Dic Golt a gysgodd yn y cart,
Fe’i speiliwyd
o’i geffyle;
A phan ddihunodd, holi wnai,—
“Ai
Dic wyf fi, ai nage?
Os Dic wyf fi, ces golled flin,—
Mi
gollais fy ngheffyle;
Ac os nad Dic, ’rwy’n fachgen
smart,
Enillais gart yn rhywle.”
Shigwti wen Shon-Gati,
Mae
crys y gŵr heb olchi,
Fe aeth yr olchbren gyda’r nanf,
A’r
wraig a’r plant yn gwaeddi.
Gwern a helyg
Hyd Nadolig.
Bedw, os cair,
Hyd Wyl
Fair;
Cringoed caeau
O hynny hyd Glamai;
Briwydd y frân
O
hynny ymlaen.
Aeth fy Ngwen i ffair Pwllheli,
Eisio padell bridd oedd arni;
Rhodd
am dani saith o sylltau,
Cawswn i hi am dair a dimau.
Aeth fy Ngwen ryw fore i olchi,
Eisio dillad glân oedd
arni;
Tra bu Gwen yn ’mofyn sebon,
Aeth y dillad hefo’r
afon.
Aeth fy Ngwen ryw fore i gorddi,
Eisio menyn ffres oedd arni;
Tra
bo Gwen yn ’mofyn halen,
Aeth y ci a’r menyn allan.
Seren ddu a mwnci,
Sion y gof yn dyrnu,
Modryb
Ann yn pigo pys,
A minnau’n chwys dyferu.
Si so gorniog,
Grot â pheder ceiniog,
Un i mi, ac
un i chwi,
Ac un i’r dyn,
Am fenthyg
y lli gorniog.
Ceiliog bach y Wyddfa
Yn canu ar y bryn,
Hwyaid
Aber Glaslyn
Yn nofio ar y llyn;
Gwyddau
Hafod G’regog
Yn gwaeddi “wich di
wach,”
A milgwn Jones Ynysfor
Ar ol
y llwynog bach.
Mae yn y Bala flawd ar werth,
Mae’n
Mawddwy berth i lechu,
Mae yn Llyn Tegid ddwr a gro,
Mae’n
Llundain o i bedoli;
Ac yng Nghastell Dinas Brân
Mae
ffynnon lân i ymolchi.
Briodi di?
Na wnaf byth!
Wyt ti’n
siwr?
Ydw’n siwr.
Hen lanc yn byw fy hunan
Ydwyf
fi;
Yn meddu cwrs o arian,
Ydwyf
fi;
Yn meddwl am briodi?
Priodi, na wnaf
byth;
Waeth beth fydd gennyf wedyn,
Ond
poenau lond fy nyth.
Mae nhw’n dwedyd ac yn son
Mod i’n caru yn sir Fon;
Minne
sydd yn caru’n ffyddlon
Dros y dŵr yn sir Gaernarfon.
Caru yng Nghaer, a charu yng Nghorwen,
Caru yn Nyffryn Clwyd
a Derwen;
Caru ’mhellach dros y mynydd,
Cael yng Nghynwyd
gariad newydd.
Elisabeth bach, a briodwch chwi fi?
Dyma’r amser gore
i chwi;
Tra bo’r drym yn mynd trwy’r dre,
Tra
bo’ch calon bach yn ei lle.
Shontyn, Shontyn, y gwr tynn;
Clywed y cwbl, a dweyd dim.
Mae’n bwrw glaw allan,
Mae’n hindda’n
y ty,
A merched Tregaron
Yn chwalu’r
gwlan du.
Bachgen bach o Ddowles,
Yn gweithio’n
ngwaith y tân,
Bron a thorri ’i galon
Ar
ol y ferch fach lân;
Ei goesau fel y pibau,
A’i
freichiau fel y brwyn,
Ei ben e fel pytaten,
A
hanner llath o drwyn.
Ar y ffordd wrth fynd i Lerpwl,
Gwelais Iohn ar ben y cwpwr;
Gofynnnis
iddo beth oedd o’n wneyd;
“Bwyta siwgwr, paid a deyd.”
Gwelais neithiwr, drwy fy hun,
Lanciau Llangwm bod yg un;
Rhai
mewn uwd, a rhai mewn llymru,
A rhai mewn buddai, wedi boddi.
Pedoli, pedoli, pe-dinc,
Mae’n rhaid
i ni bedoli
Tae e’n costio i ni bunt;
Pedol
yn ol, a phedol ymlaen,
Pedol yn eise o dan y droed ase,—
Bi-dinc,
bi-dinc, bi-dinc.
Pedoli, pedoli, pedoli, pe-drot,
Mae’n
rhaid i ni bedoli
Tae e’n costio i ni rot;
Pedol
yn ol, a phedol ymlaen,
Pedol yn eise o dan y droed ase,—
Bi-drot,
bi-drot, bi-drot.
Pedoli, pedoli, pe-din,
Pedoli’r ceffyl gwyn;
Pedoli,
pedoli, pe-doc,
Pedoli’r ebol broc.
Robin dir-rip,
A’i geffyl a’i chwip;
A’i
gap yn ei law,
Yn rhedeg trwy’r baw.
“Gw-Cw!” medd y gog,
Ar y gangen gonglog;
“Gw-cw!”
medd y llall,
Ar y gangen arall.
Shoni moni, coesau meinion,
Cwtws y gath yu lle gardyson.
Lle mae ’i sgidie?
Pwy sgidie?
Sgidie
John.
Pwy John?
John diti.
Pwy
diti?
Diti ’i fam.
Pwy fam?
I
fam e’.
Pwy e’?
E’ ’i
hunan.
Robin goch ar ben y rhiniog,
A’i ddwy aden yn anwydog;
Ac
yn dwedyd yn ysmala,—
“Mae hi’n oer, mi ddaw
yn eira.”
Canwch y gloch!
(Tynnu yn un o’r
cudynau gwallt)
Curwch y drws!
(Taro’r
talcen a’r bys)
Codwch y glicied!
(Gwasgu
blaen y trwyn i fyny)
Dowch i mewn, dowch i mewn, dowch i mewn!
(Rhoi’r
bys ar y wefus).
Mae gen i gariad glân, glân,
Gwrid coch a dannedd
mân;
Ei dwy ael fel ede sidan,
Gwallt ei phen fel gwiail
arian.
Mynd i’r ardd i dorri pwysi,
Gwrthod lafant, gwrthod lili;
Pasio’r
pinc a’r rhosod cochion,
Dewis pwysi o ddanadl poethion.
Ladi bach benfelen,
Yn byw ar ben y graig,
Mi
bobith ac mi olchith,
Gwnaiff imi burion gwraig;
Mi
startsith ac mi smwddith,
Gwnaiff imi burion
bwyd,
Fe wnaiff i’r haul dywynnu
Ar
ben y Garreg Lwyd.
Trueni mawr oedd gweled
Y merlyn bach diniwed,
Ac arno
fe y chwys yn drwyth,
Wrth lusgo llwyth o ddefed.
Glaw bach, cerr ffordd draw,
A gad i’r haul ddod yma.
Welsoch chwi wynt, welsoch chwi law?
Welsoch chwi dderyn bach
ffordd draw?
Welsoch chwi ddyn â photasen ledr,
Yn saethu
llongau brenin Lloegr?
Si so, si so,
Deryn bach
ar ben y to;
Ceiniog i ti,
Ceiniog
i mi,
A cheiniog i’r iar am ddodwy,
A cheiniog i’r
ceiliog am ganu.
Bys i fyny, teg yfory;
Bys i lawr, glaw mawr.
Daw Clame, daw Clame,
Daw dail ar bob twyn,—
Daw
meistr a meistres
I edrych yn fwyn.
A minne, ’rwy’n coelio,
Yn hela
i’m co,
I’r gunog laeth enwyn
Fod
ganwaith dan glo.
Amen, person pren,
Cath ddu a chynffon wen.
Hei ding, diri diri dywn,
Gyrru’r gwyddau bach i’r
cawn;
Dwad ’nol yn hwyr brynhawn,
A’u crombilau
bach yn llawn.
Hen wraig bach yn gyrru gwyddau,
Ar
hyd y nos;
O Langollen i Ddolgellau,
Ar
hyd y nos;
Ac yn dwedyd wrth y llanciau,
“Gyrrwch chwi,
mi ddaliaf finnau,”
O Langollen i Ddolgellau,
Ar
hyd y nos.
Hen wraig yn pluo gwyddau,
Daw yn fuan ddyddiau’r gwyliau.
Mae gen i iar, mae gen i geiliog,
Mae gen i gywen felen gopog;
Mae
gen i fuwch yn rhoi i mi lefrith,
Mae gen i gyrnen fawr o wenith.
Gwydd o flaen gŵydd,
Gŵydd ar ol gŵydd,
A
rhwng pob dwy ŵydd, gŵydd;
Sawl gŵydd oedd yno?
Mi af i’r eglwys Ddywsul nesa,
Yn fy sidan at fy sodla;
Dwed
y merched wrth eu gilydd,—
“Dacw gariad Wil Felinydd.”
Os
Wil Felinydd wyf yn garu,
Rhoddaf bupur iddo falu;
Llefrith
gwyn i yrru’r felin,
A chocos arian ar yr olwyn.
Mae’n dda gen i fuwch,
Mae’n
dda gen i oen,
Mae’n dda gen i geffyl
Yn
llydan ei ffroen;
Mae’n dda gen i ’r
adar
Sy’n canu yn y llwyn.
Mae’n
dda gen i fachgen
A chrwb ar
ei drwyn;
A thipyn bach bach o ol y frech wen,
Yn gwisgo het
befer ar ochor ei ben.
Mi fynnai wraig, mi wranta,
Caiff godi’r bore’n
nghynta;
Troed yn ol a throed ymlaen,
A throed i gicio’r
pentan.
Pry bach yn mynd i’r coed,
Dan droi ’i ferrau, dan
droi ’i droed;
Dwad adre yn y bore,
Wedi colli un o’i
sgidie.
Pry bach yn edrych am dwll,
Yn edrych am dwll, yn edrych am
dwll,
Pry bach yn edrych am dwll,
A dyma dwll, dwll,
dwll, dwll, dwll.
Bowden,
Gwas y Fowden,
Libar
labar,
Gwas y stabal,
Bys bach, druan gŵr,
Dorrodd
’i ben wrth gario dŵr
I mam i dylino.
“I’r coed,” medde Modryb y Mawd,
“I
be?” medde Bys yr Uwd;
“I ladrata,” medde Hirfys;
“Beth
os dalian ni?” medde’r Canol-fys;
“Dengwn, dengwn,
rhag iddo’n dal ni,”
Medde’r
Bys Bach.
Bwgan bo lol, a thwll yn ’i fol,
Digon o le i geffyl a
throl.
Mae geneth deg ben-felen
Yn byw ym Mhen y
Graig,
Dymunwn yn fy nghalon
Gael honno
imi’n wraig;
Hi fedr bobi a golchi,
A
thrin y tamaid bwyd,
Ac ennill llawer ceiniog
Er
lles y bwthyn llwyd.
Y wylan fach adnebydd
Pan fo’n gyfnewid tywydd;
Hi
hed yn deg, ar aden wen,
O’r môr i ben ymynydd.
Dacw ’nghariad ar y dyffryn,
Llygaid hwch a dannedd mochyn;
A
dau droed fel gwadn arad,
Fel dyllhuan mae hi’n siarad.
Dau lanc ifanc yn mynd i garu,
Ar noswaith dywell fel y fagddu;
Swn
cacynen yn y rhedyn
A’u trodd nhw adre’n fawr eu dychryn.
Mi briodaf heddyw yn ddi-nam,
Heb ddweyd un gair wrth nhad na
mam.
Chwarelwr {67}
oedd fy nhaid,
Chwarelwr oedd fy nhad;
Chwarelwr
ydwyf finnau,
Y goreu yn y wlad;
Chwarelwr
ydyw’r baban
Sy’n cysgu yn ei gryd,
Ond
tydi o’n beth rhyfedd
Ein bod ni’n
chwarelwyr i gyd?
Rhybelwr bychan ydwyf,
Yn gweithio hefo nhad,
Mi
allaf drin y cerrig
Yn well na neb o’r
wlad;
’Rwy’n medru naddu Princes,
Y
Squares, a’r Counties bach,
Cyn hir caf finnau
fargen,
Os byddaf byw ac iach.
Llifio, llifio, llifio’n dynn,
Grot y dydd y flwyddyn
hyn;
Os na lifiwn ni yn glau,
’Nillwn ni ddim grot yn
dau.
Dorti, Dorti, bara gwyn yn llosgi,
Dŵr ar y tân i
olchi’r llestri.
Morus y gwynt,
Ac Ifan y glaw,
Daflodd
fy nghap
I ganol y baw.
Mae gen i bâr o glocs,
A rheini’n
bâr go dda,
Fe barant dros y gaea,
A
thipyn bach yr ha;
Os can nhw wadnau newydd,
Fe
barant dipyn hwy;
A saith a dime’r glocsen,
A
phymtheg am y ddwy.
Glaw, glaw, cerdda draw;
Haul, haul, tywynna.
Mae’n bwrw glaw allan,
Mae’n deg
yn y tŷ,
A merched Dol ’r Onnen
Yn
cribo’r gwlan du.
Caseg winnau, coesau gwynion,
Groenwen denau, garnau duon;
Garnau
duon, groenwen denau,
Coesau gwynion, caseg winnau.
Hei, ding-a-ding, diri,
Mae
poten yn berwi,
Shini a Shani yn gweithio tân dani;
Shani’n
ei phuro â phupur a fflŵr,
Ychydig o laeth, a llawer
o ddŵr.
Dorti, Dorti, bara gwyn yn llosgi,
Dŵr ar y tân i
olchi’r llestri;
Crafwch y crochan gael creifion i’r
ci,
A hefyd gwnewch gofio
Rhoi
llaeth i’r gath ddu.
Y ci mawr yn pobi,
Y ci bach yn corddi,
A’r gath
ddu yn golchi
Ei gwyneb yn lân;
Y
wraig yn y popty
Yn gwylio’r bara’n crasu,
A’r
llygod yn rhostio
Y cig wrth y tân.
Hen ferched bach y pentre,
Yn gwisgo capie lasie,
Yfed
te a siwgr gwyn,
A chadw dim i’r llancie.
Bara a llaeth i’r llancie,
Ceirch i’r hen geffyle,
Cic
yn ol, a chic ymlaen,
A dim byd i’r genod.
Si so, jac y do,
Yn gwneyd ei nyth drwy dyllu’r to,
Yn
gwerthu’r mawn a phrynnu’r glo,
Yn lladd y fuwch a
blino’r llo,
Yn cuddio’r arian yn y gro,
A mynd
i’r Werddon i roi tro,
Si so, jac y do.
Mae gen i ebol melyn
Yn codi’n bedair
oed,
A phedair pedol arian
O dan ei bedwar
troed;
I’r siop fe geiff garlamu,
I
geisio llonnaid sach
O de a siwgr candi
I
John a Mari fach.
Mae gen i gath ddu,
Fu erioed ei bath hi,
Hi
gurith y clagwydd,
Hi dynnith ei blu;
Mae ganddi winedd a
barf,
A rheini mor hardd,
Hi helith y llygod
Yn
lluoedd o’r ardd;
Daw eilwaith i’r ty,
Hi gurith
y ci,—
Mi rown i chwi gyngor
I gadw
cath ddu.
Ar ol bod yn ferch ifanc,
A gwisgo fy ffrog
wen,
A’m gwallt i wedi ei blethu
Fel
coron ar fy mhen;
A’m sgidiau wedi eu polsio,
A’r
rheiny’n cau yn glos,—
Ar ol i mi briodi
Rhaid
i mi wisgo clocs.
’Rown i’n meddwl, ond priodi,
Na chawn i ddim ond
dawnsio a chanu;
Ond y peth a ges i wedi priodi,
Oedd siglo’r
cryd a suo’r babi.
Mae mam ynghyfraith, hwnt i’r afon,
Yn gweld fy nillad
yn rhy wynion;
Mae hi’n meddwl yn ei chalon
Mai ’mab
hi sy’n prynnu’r sebon.
Ysgafn boced, dillad llwyd,
Mawr drugaredd yw cael bwyd;
Mynd
o gwmpas, troi o gwmpas,
Ar hyd y fro;
Ymofyn
gwaith, dim gwaith,
Trwm yw’r tro.
Pwy fu farw?
“Sion Ben Tarw.”
Pwy geiff y gwpan?
“Sion
Ben Tympan.”
Pwy geiff y llwy?
“Pobol y plwy.”
Titw bytaten, i ble’r aeth dy fam?
Hi aeth i lygota a
chafodd beth cam;
Gwraig y ty nesaf a’i triniodd hi’n
frwnt,
Hi gurodd ei dannedd yng nghaead y stwnt.
Crio, crio, crio,
Mae Robin ni yn groch;
Canu,
canu, canu,
O hyd, mae Robin goch.
Sion i fyny, Sion i wared,
Sion i garthu tan y gwartheg;
Sion
a ŵyr yn well na’r merched
Pa sawl torth a wneir o beced.
Fe geir pedair torth o phioled,
Fe geir wyth o hanner peced;
Ac
os bydd y wraig yn hyswi,
Fe geir teisen heblaw hynny.
Abergwesyn, cocyn coch,
Mae cloch yn Abertawe;
Mae
eidion coch yng nghoed Plas Gwent,
A pharlament
yn Llunden.
Neidiodd llyffant ar ei naid
O Lansantffraid
i Lunden,
Ac yn ei ol yr eilfed waith
Ar
ganllaw pont Llangollen;
Ond yn lle disgynnedd y drydedd waith
Ond
ynghanol caerau Corwen.
Dincyll, doncell, yn y Bridell;
Tair cloch arian yng Nghilgeran;
Uch
ac och yn Llandudoch;
Llefain a gwaeddi yn Aberteifi;
Llaeth
a chwrw yn Eglwys Wrw;
Cario ceffyl pren trwy Eglwys Wen.
Y cobler coch o Ruddlan
A aeth i foddi cath,
Mewn
cwd o lian newydd
Nad oedd o damed gwaeth;
Y
cwd aeth hefo’r afon,
Y gath a ddaeth i’r
lan,
Ow’r cobler coch o Ruddlan,
On’d
oedd o’n foddwr gwan?
“John, John, gymri di jin?”
“Cymra, cymra,
os ca i o am ddim;”
“Amen,” meddai’r ffon,
“Dwgyd
triswllt o siop John.”
Lleuad yn oleu, plant bach yn chwareu,
Lladron yn dwad dan weu
hosanau,
Taflu y ’sanau dros ben y cloddiau;
“Amen,”
meddai’r ffon,
“Dwgyd sofren o siop John.”
Welsoch chwi Jini mewn difri?
Yn tydi hi’n grand aneiri?
Heten
grand, a bwcwl a band,
Yn tydi hi’n grand, mewn difri?
Bachgen da ’di Dafydd,
Gwisgo’i sgidie newydd;
Cadw’r
hen rai tan yr ha,
Bachgen da ’di Dafydd.
Dacw mam yn dwad
Wrth y garreg wen,
Menyn
yn ’i ffedog,
A blawd ar ’i phen;
Mae’r fuwch yn y beudy
Yn brefu am y
llo,
A’r llo yr ochr arall
Yn chware
banjo.
Cliriwch y stryd, a sefwch yn rhenc;
Mae Robin, ding denc, yn
dwad.
Bachgen bach o Felin y Wig,
Welodd o ’rioed damaid o gig;
Gwelodd
falwen ar y bwrdd,
Cipiodd ei gap, a rhedodd i ffwrdd.
Di-ling, di-ling, pwdin yn brin;
Meistr yn cael tamed, finne’n
cael dim.
Nedi ddrwg, o dwll y mŵg,
Gwerthu ’i fam am ddime
ddrwg.
“Be ’di dy oed di?”
Yr un oed a bawd fy nhroed,
A
thipyn hŷn na nannedd.
Fini, fini, Fawd,
Brawd y Fini Fawd,
Wil Bibi,
Sion
Bobwr,
Bys bach, druan gŵr,
Dal ’i ben o dan y
dŵr.
Cysga bei, babi,
Yng nghôl dadi;
Neu daw’r
baglog mawr
I dy mo’yn di’n awr.
Welwch chwi fi, a welwch chwi fi?
Welwch chwi’n
dda ga i fenthyg ci?
Mae ci
modryb Ann
Wedi mynd i’r
Llan;
Mae ci modryb Elin
Wedi
mynd i’r felin;
Mae ci
modryb Catrin
Allan ers meityn;
Mae
ci modryb Jane
Wedi mynd yn
hen;
Mae ci modryb Sioned
Yn
methu a gweled;
Mae ci tad-cu, a chi mam-gu,
Wedi mynd allan
hefo’n ci ni;
A chi modryb Ann Ty’n
y Coed
Wedi llosgi ’i
droed
Mewn padell fawr o bwdin.
Chwllio’r tŷ a chwalu’r to,
A
thynnu efo thennyn,
O forfa Caer i furiau Cent,
Nadolig
sy yn dilyn;
A dal y lladron cas a hy,
Fu’n
torri ym Mhlas y Celyn.
Mi weles ddwy lygoden,
Yn cario pont Llangollen;
Yn ol
a blaen o gylch y ddôl,
Ac yn eu hol drachefen.
Robin goch o blwy Rhiwabon,
Lyncodd bâr o fachau crochon;
Bu’n
edifar ganddo ganwaith,
Eisieu llyncu llai ar unwaith.
Tri pheth a fedr Elis,—
Rhwymo’r eisin sil yn gidys,
Dal
y gwynt a’i roi mewn coden,
Rhoi llyffethair ar draed malwen.
’Roedd bwch yn nhroed y Wyddfa
Yn rhwym
wrth aerwy pren,
A’r llall yn Ynys Enlli,
Yn
ymryson taro pen;
Wrth swn y rhain yn taro,
Mae
hyn yn chwedl chwith,
Fe syrthiodd clochdy’r Bermo,
Ac
ni chodwyd mohono byth.
Hei gel, i’r dre; hei gel, adre,—
Ceffyl John bach
mor gynted a nhwnte.
Sion a Gwen sarrug,
Ryw nos wrth y tân,
Wrth
son am eu cyfoeth,
I ymremian yr aen;
Sion
fynnai ebol
I bori ar y bryn,
A Sian fynnai
hwyaid
I nofio ar y llyn.
Mi af oddiyma i’r Hafod Lom,
Er ei bod
hi’n drom o siwrne,
Mi gaf yno ganu cainc
Ar
ymyl mainc y simdde;
Ac, ond odid; dyna’r fan
Y
bydda i tan y bore.
Helyg a bedw, gwern a derw,
Cyll, a mall,
a bocs, ac yw;
A choed shirins {88a}
a gwsberins {88b},
A
chelynen werddlas wiw.
Hen wraig o ymyl Rhuthyn,
Aeth i’r afon i olchi pwdin;
Tra
bu’n siarad â’i chymdogion,
Aeth y pwdin efo’r
afon,
Ar ol y cwd.
Jim Cro crystyn,
Wan, tw, and ffôr;
Mochyn
bach yn eistedd
Yn ddel ar y stol.
Aeth hen wraig i’r dre i brynnu pen tarw,
Pan ddaeth hi’n
ol ’roedd y plant wedi marw;
Aeth
i’r llofft i ganu’r gloch,
Cwympodd
lawr i stwnd y moch.
Hen wraig bach yn y gornel,
A phib yn ei phen;
Yn
smocio llaeth enwyn,—
Dyna’r stori
ar ben.
Calap ar galap, a’r asyn ar drot,
A finne’n clunhercan
yn ddigon o sport.
Calennig i mi, calennig i’r ffon,
Calennig i fwyta, y
noson hon;
Calennig i’m tad am glytio’m sgidiau,
Calennig
i’m mam am drwsio’m sanau.
Dacw nhad yn naddu,
A mam
a nain yn nyddu,
Y naill a’r droell fawr, a’r llall
a’r droell fach,
A nhaid yn y gornel yn
canu.
Dafad ddu {91}
Finddu,
fonddu,
Felen gynffonddu,
Foel, a chudyn a chynffon ddu.
Aderyn y bwn a bama,
A aeth
i rodio’r gwylia,
Ac wrth ddod adra ar hyd y nos,
Fe
syrthiodd i ffos y Wyddfa.
Mali bach a finna,
Yn mynd
i ffair y Bala;
Dod yn ol ar gefn y frân,
A
phwys o wlan am ddima.
Shoni o Ben y Clogwyn
Yn berchen buwch a llo,
A
gafar bach a mochyn,
A cheiliog,—go-go-go!
A ddoi di, Mari anwyl,
I’r eglwys gyda
mi?
Fy nghariad, a fy nghoron,
A’m
calon ydwyt ti.
Faint ydyw gwIan y defaid breision,
Hob
y deri dando,
Sydd yn pori yn sir Gaernarfon?
Dyna
ganu eto.
“Ni gawn goron gron eleni,”—
Tewch,
taid, tewch,—
“Am oreu gwlan yn holl Eryri.”
Hei
ho! Hali ho!
Gwlan Cwm Dyli, dyma fo.
Bum yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi’n ddwyfil;
Bum
yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad.
Bum yn byw yn afrad, afrad,
Aeth y ddwyfil yn un ddafad;
Bum
yn byw yn gynnil, gynnil,
Aeth un ddafad imi’n ddwyfil.
Ple mae mam-gu?
“Ar
ben y Mynydd Du.”
Pwy sydd gyda hi?
“Oen
gwyn a myharen ddu.
Fe aeth i lan dros yr Heol Gan,
Fe ddaw
i lawr dros yr Heol Fawr.”
’Roedd Sion, a Sian, a Siencyn,
Yn byw
yn sir y Fflint;
Aeth Sion i hela’r cadno,
A
Sian i hela’r gwynt;
A Siencyn fu
Yn cadw’r ty.
Ladis bach y pentre,
Yn
gwisgo cap a leise;
Yfed te a siwgwr gwyn,
A
chadw dim i’r llancie;
A modrwy aur ar ben pob bys,
A
chwrr eu crys yn llapre.
Clywch y tarw coch cethin,
Yn rhuo draw yn y cae eithin;
Clywir
o bell, ni welir o byth.
Mae gennyf edefyn sidan,
Mi dorraf f’ enw f hunan;
M
ac A ac O ac U,
A dybl U for William.
Du, du, fel y frân,
Llathen o gynffon, a thwll yn ei blaen.
Cwcw Glame, cosyn dime,
Coes y frân ar ben y shime.
Calennig yn gyfan
Ar
fore dydd Calan,
Unwaith, dwywaith, tair.
Mi godais yn fore,
Mi
gerddais yn ffyrnig,
At dŷ Mr Jones i ofyn
calennig;
Os gwelwch yn dda,
Am
swllt a chwecheiniog,
Blwyddyn
newydd dda
Am ddimai neu geiniog.
Dydd Calan, cynta’r flwyddyn,
’Rwy’n
dyfod ar eich traws,
I ymofyn am y geiniog,
Neu
glwt o fara a chaws;
Edrychwch arna i ’n
siriol,
Newidiwch ddim o’ch
gwedd,
Cyn daw Dydd Calan nesaf
Bydd
llawer yn y bedd.
Mi godes heddi mas o ’nhy,
A’m
ffon a’m cwdyn gyda fi;
A thyma’m
neges ar eich traws,
Yw llanw ’nghwd o
fara a chaws.
Dydd Calan yw heddy, onite?
Na
rowch chwi ddim i blant y dre;
Ond rhowch galennig
pert dros ben
I blant Cwm Coi a phlant Dre Wen.
Dwy ŵydd radlon,
Yn
pori’n nglan yr afon,
Yn rhadloned a’r rhadlonaf ŵydd,
Dwy
ŵydd radlon.
’Roedd gen i iar yn gori
Ar ben y Frenni
Fawr;
A deg o wyau dani,—
Daeth un
ar ddeg i lawr.
B’le ti’n mynd, b’le ti’n mynd,
Yr
hen dderyn bach?
I sythu cyn bo ti’n marw?
Pwy mor uchel
wyt ti’n byw,
Gael dweyd wrth Ddafydd Huw?
O, trueni
am yr hen dderyn bach.
Mi weles ferch yn godro,
A
menyg am ei dwylo,
Yn sychu’r llaeth yng nghwrr ei chrys,
A
merch Dai Rhys oedd honno.
Mae’n dda gen i ddefaid, mae’n dda gen i ŵyn,
Mae’n
dda gen i feinwen a phant yn ei thrwyn;
A thipyn bach bach o ol
y frech wen,
Yn gwisgo het befar ar ochr ei phen.
Mae gen i ganu byrr bach,—
Ffiol a llwy, a sucan a llaeth;
Mae
gen i ganu byrr bach sy hwy,—
Ffiol a llaeth, a sucan a llwy.
Tarw corniog, torri cyrnau,
Heglau baglog, higlau byglau;
Higlau
byglau, heglau baglog,
Torri cyrnau tarw corniog.
Pe tasai’r Wyddfa i gyd yn gaws,
Fe
fuasai’n haws cael enllyn;
A Moel Eiddia’n fara gwyn,
A’r
llyn yn hufen melyn.
Fy modryb, iy modryb, a daflodd ei chwd,
Dros bont Aber Glaslyn,
i ganol y ffrwd;
Cnau ac afalau oedd ynddo fo’n dynn,
Mi
wn fod yn ’difar i’w chalon cyn hyn.
Dydd Gwener a dydd Sadwrn
Sydd nesa at ddydd
Sul;
Daw dada bach tuag adre,
Mewn trol
a bastard mul.
Mae gennyf fuwch a dau gorn arian,
Mae gennyf fuwch yn godro’i
hunan;
Mae gennyf fuwch yn llanw’r stwcau,
Fel mae’r
môr yn llanw’r beiau.
Marc a Meurig, b’le buoch chwi’n pori?
“Ar
y Waen Las, gerllaw Llety Brongu.”
Beth gawsoch chwi yno
yn well nag yma?
“Porfa fras, a dŵr ffynhonna.”
O gwcw, O gwcw, b’le buost ti cyd
Cyn dod i Benparce?
Ti aethost yn fud.
“Meddyliais fod yma bythefnos yn gynt,
Mi
godais fy aden i fyny i’r gwynt;
Ni wnes gamgymeriad, nid
oeddwn mor ffol,
Corwynt o’r gogledd a’m cadwodd i’n
ol.”
Llifio â llif,
Am
geiniog y dydd;
Llifio pren bedw,
Yng
nghoed yr hen widw;
Bocs i John, a bocs i finne,
Bocs i bawb
drwy’r tŷ ’s bydd eise.
Wil ffril ffralog
A’i
gledde tair ceiniog,
Yn erlid y llygod trwy’r llydi;
Aeth
y llygod i’r dowlad,
Aeth Wil i ’mofyn
lletwad;
Aeth llygod i’r
ddol.
Aeth Wil ar eu hol,
Aeth
y llygod i foddi,
Aeth Wil i gysgu.
Hen wraig bach, den, den,
Pais ddu, a het wen,
Calon garreg,
a choes bren.
Os gwelwch chwi’n dda, ga’i grempog?
Mae
mam yn rhy dlawd
I brynnu blawd,
A
nhad yn rhy ddiog i weithio;
Halen
i’r ci bach,
Bwyd i’r
gath bach,
Mae ngheg i’n grimpin eisiau crempog.
Dol las lydan,
Lot
o wyddau bach penchwiban,
A chlagwydd pen aur, a gwydd ben arian.
Y neb a dynno nyth y dryw,
Ni wel ddaioni tra bo byw.
Y neb a dynno nyth ehedydd,
Cyll oddiar ei ben ei fedydd.
Os tynni nyth y robin,
Ti gei gorco yn dy goffin.
Pan eis i gynta i garu,
Nid own ond bachgen
bach,
Yn methu cyrraedd cusan
Heb fynd i
ben stol fach;
Pan es i garu wedyn,
Yr own
yn fachgen mawr,
Yn gallu cyrraedd cusan
A
’nwy droed ar y llawr.
Y gwynt ffalwm ar fawr hwthrwm,
Chwyth dy dŷ di’n
bendramwgwm.
Pan own i’n mynd â brâg tua’r felin,
Meddylies
i fi gwrdd â brenin;
Erbyn edrych, beth oedd yno?
Hen
gel gwyn oedd bron a thrigo.
A glywaist ti
Gân
ein iar ni?—
“Dodwy, dodwy ’rioed,
Heb un
esgid am fy nhroed;
A phe bawn yn dodwy byth,
Ni chawn ond
un wy yn fy nyth.”
“Taw’r ffolog,”
ebai’r ceiliog,
“Wnaeth y crydd ’rioed esgid
fforchog.”
“Mi ddodwas wy heddyw, mi ddodwas wy ddoe;
Mi wn i’r
lle’r aeth,—
Morwyn y tŷ holws, gwraig y ty triniws,
Gŵr
y ty bytws,—a dyna lle’r aeth.”
Ar garlam, ar garlam, i ffair Abergele,
Ar ffrwst, ar ffrwst,
i ffair Lanrwst,
Ar dith, ar dith, i ffair y Ffrith,
Ar drot,
ar drot, i ffair Llan-mot,
O gam i gam i dŷ Modryb Ann.
Mae’r ceiliog coch yn canu,
Mae’n
bryd i minne godi,
Mae’r bechgyn drwg yn mynd tua’r
glo,
A’r fuwch a’r llo yn brefu.
Iar fach bert yw ngiar fach i,
Gwyn a choch a melyn a du;
Fe
aeth i’r coed i ddodwy wy, {110b}
Cwnmws
ei chwt, a ffwrdd â hi.
“A ddoi di i’r coed?” medde Bibyn wrth Bobyn,
“A
ddoi di i’r coed?” medde Richard wrth Robin,
“A
ddoi di i’r coed?” medde’r bachgen ei hun,
“A
ddoi di i’r coed?” medde nhw bod yg un.
“Beth wnawn ni yno?” medde Bibyn wrth Bobyn,
“Beth
wnawn ni yno?” medde Richard wrth Robin,
“Beth wnawn
ni yno?” medde’r bachgen ei hun,
“Beth wnawn
ni yno?” medde nhw bod yg un.
“Hela’r dryw bach,” medde Bibyn wrth Bobyn,
“Hela’r
dryw bach,” medda Richard wrth Robin,
“Hela’r
dryw bach,” medde’r bachgen ei hun,
“Hela’r
dryw bach,” medde nhw bod yg un.
“Beth wnawn ni wedyn?” medde Bibyn wrth Bobyn,
“Beth
wnawn ni wedyn?” medde Richard wrth Robin,
“Beth wnawn
ni wedyn?” medde’r bachgen ei hun,
“Beth wnawn
ni wedyn?” medda nhw bod yg un.
“Gwneyd potes â fo,” medde Bibyn wrth Bobyn,
“Gwneyd
potes â fo,” medde Richard wrth Robin,
“Gwneyd
potes â fo,” medde’r bachgen ei hun;
A boddi
mewn potes ddaru nhw, bod yg un.
Mi ddeuda i ti stori,—
Hen gaseg yn
pori.
Mi ddeuda i ti ddwy,—
Hen gaseg
ar y plwy.
Mi ddeuda i ti dair,—
Hen
gaseg yn y ffair.
Mi ddeuda i ti beder,—
Hen
gaseg yn colli pedol.
Mi ddeuda i ti bump,—
Hen
gaseg ar ei phwmp.
Mi ddeuda i ti chwech,—
Hen
gaseg frech.
Mi ddeuda i ti saith,—
Hen
gaseg fraith.
Mi ddeuda i ti wyth,—
Hen
gaseg yn rhoi pwyth.
Mi ddeuda i ti naw,—
Hen
gaseg yn y baw.
Mi ddeuda i ti ddeg,—
Hen
gaseg ar y clwt teg.
Pan oeddwn yn ferch ifanc,
Ac yn fy ffedog
wen,
Yn gwisgo’m cnotyn sidan
Yn uchel
ar fy mhen,
Mi neidiwn gainc yn wisgi,
Mi
ddaliwn ’nghorff yn syth,
Meddyliais y pryd hynny,—
“Ddaw
henaint ata i byth.”
I ble ti’n mynd heddy ’deryn bach syw?
I mofyn bara,
os bydda’i byw;
I beth ti’n mo’yn a bara, ’deryn
bach syw?
I ddodi yn ’y nghawl, os bydda’i byw;
I
beth ti’n mo’yn a cawl, ’deryn bach syw?
I ddodi
yn ’y mola, os bydda’i byw;
I beth ti’n mo’yn
a bola, ’deryn bach syw?
Wel, ond bai bola, byddwn ni ddim
byw.
Nid oes gen i na buwch na dafad,
Na giar na cheiliog wrth fy
ngalwad,
Ond bwth o dŷ, a hwnw’n fudur,
A thwll
o ffenast heb un gwydyr.
Gwelais neithiwr trwy fy hun,
Dair gwlad yn mynd yn un;
Fala’n
tyfu ar friga’r brwyn,
A phob hen wraig yn eneth fach, fwyn.
Mae mwy ysywaeth yn priodi,
Nag sydd a chig at Sul i ferwi.
Mae nhw’n dwedyd am yr adar,
Nad oes un o’r rhain
heb gymar;
Gwelais dderyn brith y fuches,
Heb un cymar na
chymhares.
Mae’m calon i mor drymed
A’r march
sy’n dringo’r rhiw,
Wrth geisio bod yn llawen,
Nis
medraf yn fy myw;
Mae’r esgid fach yn gwasgu
Mewn
man nas gwyddoch chwi,
A llawer gofid meddwl
Sy’n
torri ’nghalon i.
Dos i’th wely ’rwan,
Dos
i’th wely ’rwan;
Dos i’th wely fel yr wyt,
Dos
i’th wely ’rwan.
Footnotes:
{0a} HWIANGERDDI CYMRU. Rhan I. Darluniau gan Winifred Hartley. 2s. 6d. Conwy: R. E. Jones a’i Frodyr.
{0b} WELSH NURSERY RHYMES. Collected by Cadrawd. Arranged by Harry Evans. 2s. The Educational Publishing Company, Merthyr.
{14a} Ychwaneger dafad ddu, lwyd, goch, felen, frech, fraith, &c., hyd nes y bydd y bychan wedi huno.
{14b} Weithiau cenid “A chwe nichog ynddi.”
{16} Wrth ddawnsio efo coes ysgub.
{19a} Cyffyrddid â’r fawd a’r bysedd wrth enwi pob un.
{19b} Os dymunid gwneud y ddrama yn fwy cyffrous, dywedid yma,—“I ladd defaid.” Yr oedd crogi am ddwyn defaid.
{20} Rhoddid blaen gwialen yn y tân, a throid hi’n gyflym i ddarlunio buarth, cryman, &c., wrth ddweyd y geiriau.
{27a} Mae’n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
{27b} Mae’n gofyn medr i wneyd y swn priodol. Medd golygydd Llyfr Coch Hergest, gan yr hwn y cefais hwy, y medr hwn.
{39} Gellir trefnu geiriau’r pennill mewn llu o ffyrdd.
{63} Dywedir y rhain wrth gerdded un neu ddau fys (“Dau bry bach”) i fyny coiff y plentyn. Gorffennir dan ei oglais dan ei ên.
{67} Dyweder “ffarmwr,” “bugail,” “glowr,” “gweithiwr,” &c., yn ol fel y bydd eisieu.
{68} Un yn dysgu dod yn chwarelwr yw rhybelwr. Enwau ar lechau o wahanol faint yw Princes, Squares, a Counties.
{88a} Cherries, ceirios.
{88b} Gooseberries, eirin Mair.
{91} Newidier yn wen, goch, lâs, fraith, frech, &c., hyd nes y cysgro’r baban.
{99} Nid wyf yn sicr ai priodol galw caneuon Calan yn ganeuon hwian. Ond hyn a wn, cenid hwy ar yr hen aelwydydd fel caneuon hwian.
{100} I brofi y medrai’r plentyn ddweyd y seiniau anhawddaf yn groew.
{107} Cefais hwn, ac amryw o hwiangerddi Dyfed welir trwy’r llyfr, gan gyfieithydd Dwyfol Gân Dante i’r Gymraeg.
{109} O gasgliad Ceiriog yn “Oriau’r Bore.”
{110a} O gasgliad Cadrawd yn yr “History of Llangynwyd Parish.”
{110b} Cynhaner wî, ffordd Gogledd Mynwy i ddweyd y gair wy.
*** END OF THE PROJECT GUTENBERG EBOOK, YR HWIANGERDDI ***
******This file should be named hwng10h.htm or hwng10h.zip****** Corrected EDITIONS of our EBooks get a new NUMBER, hwng11h.htm VERSIONS based on separate sources get new LETTER, hwng10ah.htm Project Gutenberg eBooks are often created from several printed editions, all of which are confirmed as Public Domain in the US unless a copyright notice is included. Thus, we usually do not keep eBooks in compliance with any particular paper edition. We are now trying to release all our eBooks one year in advance of the official release dates, leaving time for better editing. Please be encouraged to tell us about any error or corrections, even years after the official publication date. Please note neither this listing nor its contents are final til midnight of the last day of the month of any such announcement. The official release date of all Project Gutenberg eBooks is at Midnight, Central Time, of the last day of the stated month. A preliminary version may often be posted for suggestion, comment and editing by those who wish to do so. Most people start at our Web sites at: http://gutenberg.net or http://promo.net/pg These Web sites include award-winning information about Project Gutenberg, including how to donate, how to help produce our new eBooks, and how to subscribe to our email newsletter (free!). Those of you who want to download any eBook before announcement can get to them as follows, and just download by date. This is also a good way to get them instantly upon announcement, as the indexes our cataloguers produce obviously take a while after an announcement goes out in the Project Gutenberg Newsletter. http://www.ibiblio.org/gutenberg/etext05 or ftp://ftp.ibiblio.org/pub/docs/books/gutenberg/etext05 Or /etext04, 03, 02, 01, 00, 99, 98, 97, 96, 95, 94, 93, 92, 92, 91 or 90 Just search by the first five letters of the filename you want, as it appears in our Newsletters. Information about Project Gutenberg (one page) We produce about two million dollars for each hour we work. The time it takes us, a rather conservative estimate, is fifty hours to get any eBook selected, entered, proofread, edited, copyright searched and analyzed, the copyright letters written, etc. Our projected audience is one hundred million readers. If the value per text is nominally estimated at one dollar then we produce $2 million dollars per hour in 2002 as we release over 100 new text files per month: 1240 more eBooks in 2001 for a total of 4000+ We are already on our way to trying for 2000 more eBooks in 2002 If they reach just 1-2% of the world's population then the total will reach over half a trillion eBooks given away by year's end. The Goal of Project Gutenberg is to Give Away 1 Trillion eBooks! This is ten thousand titles each to one hundred million readers, which is only about 4% of the present number of computer users. Here is the briefest record of our progress (* means estimated): eBooks Year Month 1 1971 July 10 1991 January 100 1994 January 1000 1997 August 1500 1998 October 2000 1999 December 2500 2000 December 3000 2001 November 4000 2001 October/November 6000 2002 December* 9000 2003 November* 10000 2004 January* The Project Gutenberg Literary Archive Foundation has been created to secure a future for Project Gutenberg into the next millennium. We need your donations more than ever! As of February, 2002, contributions are being solicited from people and organizations in: Alabama, Alaska, Arkansas, Connecticut, Delaware, District of Columbia, Florida, Georgia, Hawaii, Illinois, Indiana, Iowa, Kansas, Kentucky, Louisiana, Maine, Massachusetts, Michigan, Mississippi, Missouri, Montana, Nebraska, Nevada, New Hampshire, New Jersey, New Mexico, New York, North Carolina, Ohio, Oklahoma, Oregon, Pennsylvania, Rhode Island, South Carolina, South Dakota, Tennessee, Texas, Utah, Vermont, Virginia, Washington, West Virginia, Wisconsin, and Wyoming. We have filed in all 50 states now, but these are the only ones that have responded. As the requirements for other states are met, additions to this list will be made and fund raising will begin in the additional states. Please feel free to ask to check the status of your state. In answer to various questions we have received on this: We are constantly working on finishing the paperwork to legally request donations in all 50 states. If your state is not listed and you would like to know if we have added it since the list you have, just ask. While we cannot solicit donations from people in states where we are not yet registered, we know of no prohibition against accepting donations from donors in these states who approach us with an offer to donate. International donations are accepted, but we don't know ANYTHING about how to make them tax-deductible, or even if they CAN be made deductible, and don't have the staff to handle it even if there are ways. Donations by check or money order may be sent to: PROJECT GUTENBERG LITERARY ARCHIVE FOUNDATION 809 North 1500 West Salt Lake City, UT 84116 Contact us if you want to arrange for a wire transfer or payment method other than by check or money order. The Project Gutenberg Literary Archive Foundation has been approved by the US Internal Revenue Service as a 501(c)(3) organization with EIN [Employee Identification Number] 64-622154. Donations are tax-deductible to the maximum extent permitted by law. As fund-raising requirements for other states are met, additions to this list will be made and fund-raising will begin in the additional states. We need your donations more than ever! You can get up to date donation information online at: http://www.gutenberg.net/donation.html *** If you can't reach Project Gutenberg, you can always email directly to: Michael S. Hart hart@pobox.com Prof. Hart will answer or forward your message. We would prefer to send you information by email. **The Legal Small Print** (Three Pages) ***START**THE SMALL PRINT!**FOR PUBLIC DOMAIN EBOOKS**START*** Why is this "Small Print!" statement here? You know: lawyers. They tell us you might sue us if there is something wrong with your copy of this eBook, even if you got it for free from someone other than us, and even if what's wrong is not our fault. So, among other things, this "Small Print!" statement disclaims most of our liability to you. It also tells you how you may distribute copies of this eBook if you want to. *BEFORE!* YOU USE OR READ THIS EBOOK By using or reading any part of this PROJECT GUTENBERG-tm eBook, you indicate that you understand, agree to and accept this "Small Print!" statement. If you do not, you can receive a refund of the money (if any) you paid for this eBook by sending a request within 30 days of receiving it to the person you got it from. If you received this eBook on a physical medium (such as a disk), you must return it with your request. ABOUT PROJECT GUTENBERG-TM EBOOKS This PROJECT GUTENBERG-tm eBook, like most PROJECT GUTENBERG-tm eBooks, is a "public domain" work distributed by Professor Michael S. Hart through the Project Gutenberg Association (the "Project"). Among other things, this means that no one owns a United States copyright on or for this work, so the Project (and you!) can copy and distribute it in the United States without permission and without paying copyright royalties. Special rules, set forth below, apply if you wish to copy and distribute this eBook under the "PROJECT GUTENBERG" trademark. Please do not use the "PROJECT GUTENBERG" trademark to market any commercial products without permission. To create these eBooks, the Project expends considerable efforts to identify, transcribe and proofread public domain works. Despite these efforts, the Project's eBooks and any medium they may be on may contain "Defects". Among other things, Defects may take the form of incomplete, inaccurate or corrupt data, transcription errors, a copyright or other intellectual property infringement, a defective or damaged disk or other eBook medium, a computer virus, or computer codes that damage or cannot be read by your equipment. LIMITED WARRANTY; DISCLAIMER OF DAMAGES But for the "Right of Replacement or Refund" described below, [1] Michael Hart and the Foundation (and any other party you may receive this eBook from as a PROJECT GUTENBERG-tm eBook) disclaims all liability to you for damages, costs and expenses, including legal fees, and [2] YOU HAVE NO REMEDIES FOR NEGLIGENCE OR UNDER STRICT LIABILITY, OR FOR BREACH OF WARRANTY OR CONTRACT, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO INDIRECT, CONSEQUENTIAL, PUNITIVE OR INCIDENTAL DAMAGES, EVEN IF YOU GIVE NOTICE OF THE POSSIBILITY OF SUCH DAMAGES. If you discover a Defect in this eBook within 90 days of receiving it, you can receive a refund of the money (if any) you paid for it by sending an explanatory note within that time to the person you received it from. If you received it on a physical medium, you must return it with your note, and such person may choose to alternatively give you a replacement copy. If you received it electronically, such person may choose to alternatively give you a second opportunity to receive it electronically. THIS EBOOK IS OTHERWISE PROVIDED TO YOU "AS-IS". NO OTHER WARRANTIES OF ANY KIND, EXPRESS OR IMPLIED, ARE MADE TO YOU AS TO THE EBOOK OR ANY MEDIUM IT MAY BE ON, INCLUDING BUT NOT LIMITED TO WARRANTIES OF MERCHANTABILITY OR FITNESS FOR A PARTICULAR PURPOSE. Some states do not allow disclaimers of implied warranties or the exclusion or limitation of consequential damages, so the above disclaimers and exclusions may not apply to you, and you may have other legal rights. INDEMNITY You will indemnify and hold Michael Hart, the Foundation, and its trustees and agents, and any volunteers associated with the production and distribution of Project Gutenberg-tm texts harmless, from all liability, cost and expense, including legal fees, that arise directly or indirectly from any of the following that you do or cause: [1] distribution of this eBook, [2] alteration, modification, or addition to the eBook, or [3] any Defect. DISTRIBUTION UNDER "PROJECT GUTENBERG-tm" You may distribute copies of this eBook electronically, or by disk, book or any other medium if you either delete this "Small Print!" and all other references to Project Gutenberg, or: [1] Only give exact copies of it. Among other things, this requires that you do not remove, alter or modify the eBook or this "small print!" statement. You may however, if you wish, distribute this eBook in machine readable binary, compressed, mark-up, or proprietary form, including any form resulting from conversion by word processing or hypertext software, but only so long as *EITHER*: [*] The eBook, when displayed, is clearly readable, and does *not* contain characters other than those intended by the author of the work, although tilde (~), asterisk (*) and underline (_) characters may be used to convey punctuation intended by the author, and additional characters may be used to indicate hypertext links; OR [*] The eBook may be readily converted by the reader at no expense into plain ASCII, EBCDIC or equivalent form by the program that displays the eBook (as is the case, for instance, with most word processors); OR [*] You provide, or agree to also provide on request at no additional cost, fee or expense, a copy of the eBook in its original plain ASCII form (or in EBCDIC or other equivalent proprietary form). [2] Honor the eBook refund and replacement provisions of this "Small Print!" statement. [3] Pay a trademark license fee to the Foundation of 20% of the gross profits you derive calculated using the method you already use to calculate your applicable taxes. If you don't derive profits, no royalty is due. Royalties are payable to "Project Gutenberg Literary Archive Foundation" the 60 days following each date you prepare (or were legally required to prepare) your annual (or equivalent periodic) tax return. Please contact us beforehand to let us know your plans and to work out the details. WHAT IF YOU *WANT* TO SEND MONEY EVEN IF YOU DON'T HAVE TO? Project Gutenberg is dedicated to increasing the number of public domain and licensed works that can be freely distributed in machine readable form. The Project gratefully accepts contributions of money, time, public domain materials, or royalty free copyright licenses. Money should be paid to the: "Project Gutenberg Literary Archive Foundation." If you are interested in contributing scanning equipment or software or other items, please contact Michael Hart at: hart@pobox.com [Portions of this eBook's header and trailer may be reprinted only when distributed free of all fees. Copyright (C) 2001, 2002 by Michael S. Hart. Project Gutenberg is a TradeMark and may not be used in any sales of Project Gutenberg eBooks or other materials be they hardware or software or any other related product without express permission.] *END THE SMALL PRINT! FOR PUBLIC DOMAIN EBOOKS*Ver.02/11/02*END*